| Tudalen Wyrdd | |||||
|
Y Gelli Gyffwrdd a’r Amgylchedd
Ers i ni agor ym 1993, rydym wedi gweithio’n galed ac yn gyson i geisio lleihau’r effeithiau negyddol yr ydym yn ei gael ar yr amgylchedd, ac ar yr un pryd yn ceisio hybu’r effeithiau’r positif. Nid tasg hawdd fu hon, yn enwedig yn y dyddiau cynnar, gan ei bod hi’n anodd yr adeg honno i ganfod ffyrdd o ailgylchu deunyddiau. Er ein bod yn gallu ailgylchu mwy erbyn hyn, nid da lle gellir gwell, ac yr ydym bob amser yn ceisio canfod dulliau newydd o leihau’n ‘ôl troed amgylcheddol’. Un agwedd yn unig yw ailgylchu. Fe ddefnyddiwyd Derw, Llarwydd a Phinwydd Douglas a dyfwyd yn lleol, i adeiladu’r Neuadd Fawr, ac roedd hyn yn cefnogi’r economi leol ac yn hybu rheolaeth dda o’n coedwigoedd. Lle y mae hynny’n bosib, rydym yn defnyddio coed a dyfwyd yn lleol ar gyfer ffensio ac adeiladu.
Defnyddir llechi wedi eu hailgylchu ar doeau ein prif adeiladau.
Rydym yn defnyddio llechi wedi eu hailgylchu o chwareli lleol ar gyfer y craidd caled a gwaith wynebu llac ar ein ffyrdd a’n meysydd parcio.
Rydym yn ceisio defnyddio cyn lleied â phosib o blastig, ond mae yna bob amser le i wella yn y maes hwn, ac mewn rhai gweithgareddau, fel y Rhedfa Fawr Werdd, ‘does dim dewis arall ar gael.
Defnyddiwyd nemor ddim coed caled trofannol yn y Gelli Gyffwrdd. Ailgylchu Rydym yn ailgylchu mwy a mwy o ddeunyddiau, ond y mae rhaid ystyried materion economaidd a defnyddio synnwyr cyffredin. Er enghraifft, doedd ailgylchu cardfwrdd ddim yn bosib hyd nes y mentrodd cwmni o Fôn i’r maes ychydig flynyddoedd yn ôl. Cyn hynny fe fyddai’n rhaid i ni fod wedi gorfod talu am lori i ddod yma’r holl ffordd o Ganolbarth Lloegr i gasglu palet neu ddau o gardfwrdd, a doedd hynny ddim yn gwneud unrhyw synnwyr amgylcheddol nac economaidd.
Rydym yn ailgylchu papur, cetris argraffyddion, hen ddillad a gollwyd, olew coginio a choed. Mae’r slediau plastig sy’n cael eu defnyddio ar y Rhedfa Fawr Werdd, yn cael eu hailddefnyddio gan gwmni lleol. Bellach mae gennym ddau fin ailgylchu poteli diodydd plastig ar gyfer y cwsmeriaid. Mae olew coginio o’n ceginau yn cael ei gasglu gan gwmni lleol. Mae’r olew yn cael ei brosesu ac yn cael ei ddefnyddio fel un o brif gynhwysion bio-diesel.
Mae hyd yn oed bwyd sy’n cael ei wastraffu yn y caffi yn cael ei ailgylchu - mae rhan o’r bwyd llysieuol sydd dros ben yn cael ei fwydo i’r peunod sydd i’w gweld o gwmpas y Parc.
Mae’r holl ddeunydd organig yn cael ei gompostio, gan gynnwys dail, toriadau gwair a charthion cwningod!
Yn ystod haf 2007 dechreuwyd defnyddio bagiau sbwriel sy’n pydru yn y rhan fwyaf o finiau’r Parc.
Tybiau hufen ia. Yr opsiynau gorau yn nhrefn dewis yw, lleihau/ ailddefnyddio/ ailgylchu’r tybiau: Rydym wedi canfod cwmni sy’n ailgylchu’r tybiau, ond yn ddelfrydol buasai’n well gennym petaent yn cael eu hailddefnyddio, felly buasem yn falch o glywed gan gwsmeriaid sy’n meddwl y gallant ddefnyddio 20 neu fwy ohonynt ar gyfer garddio ac yn y blaen, i gysylltu â ni. (Yn anffodus, nid yw lleihau nifer y tybiau’n opsiwn, gan fod ein cwsmeriaid yn llawer rhy hoff o hufen ia.)
Dwr Fe lansiwyd y System Cynaeafu Dwr yn haf 2007, ac mae mwy o fanylion am hyn ar ein Tudalen Newyddion. Mae’r cynllun yn defnyddio glaw sy’n disgyn ar do’r Neuadd Fawr ar gyfer flysio’r toiledau, ac mae hyn yn arbed litrau o ddwr yfed o ansawdd uchel mewn blwyddyn. Ar hyn o bryd mae ein defnydd dwr oddeutu 10 litr yr ymwelydd y flwyddyn.
Trydan Hyd at yn ddiweddar roeddem yn rhedeg y safle cyfan gan ddefnyddio'r un math o ffiws sydd i’w ganfod yn ein cartrefi, h.y. ffiws sengl 100 amp. Yn 2005 fe uwchraddiwyd y gyfundrefn drydan i system bwer dair gwedd sy’n rhoi’r gallu cynhyrchu o 300 amp i ni. Er hynny, dim ond oddeutu hanner hwn a ddefnyddir ar hyn o bryd. Mae ein defnydd presennol o drydan oddeutu 0.75 Cilowat yr ymwelydd y flwyddyn. Mae hyn yn rhyfeddol o isel ac mae eraill yn y diwydiant twristiaeth yn ei chael yn anodd credu fod ein defnydd o drydan mor isel â hyn.
Tanwydd Ffosil Rydym yn defnyddio nifer o beiriannau sy’n defnyddio petrol. Mae Landrofer y cwmni yn defnyddio diesel ac rydym ar hyn o bryd yn ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio bio-diesel. Defnyddir LPG yn y gegin ar gyfer y radell a’r peiriant ffrio. Ar hyn o bryd does dim dewis addas arall - rhaid defnyddio nwy.
Sefydlogi Carbon / Colli Carbon Rydym wedi plannu dros 5,000 o goed ar y safle ers 1993. Mae tir a fu unwaith yn dir pori garw ar gyfer defaid, yn awr yn goetir cymysg, ac mae hyn nid yn unig yn sefydlogi carbon o’r atmosffer, ond y mae hefyd yn gwella ffrwythlondeb a mandylledd y pridd, ac yn creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt ac yn cynyddu’r bioamrywiaethau.
Ar y llaw arall rydym wedi gorchuddio darn sylweddol o dir gwlyb lle bu brwyn a gwair yn tyfu, gyda gwastraff llechi er mwyn creu meysydd parcio. Mae hyn yn tynnu darn ( anghynhyrchiol serch hynny ) o dir allan o’r cylch carbon.
Os ydym am unrhyw reswm yn gorfod torri coeden, yna rydym yn ceisio gwneud y defnydd gorau ohoni ; defnyddir y brigau ar gyfer adeiladu cuddfannau, a darn canol y goeden a’r boncyff ar gyfer coed tân. Coed bedw yw’r mwyafrif o’r rhain, sef y math o goed, a all trwy ddefnyddio dulliau bondocio, dyfu eto.
Bioamrywiaeth
Mae arolwg o fywyd gwyllt yn awgrymu fod yna nifer fawr o adar ac anifeiliaid di-asgwrn cefn yn defnyddio’r safle. Mae’r amrywiaeth o blanhigion naturiol ar gynnydd oherwydd rheolaeth safle cadarnhaol, ac mae hyn yn cynnwys plannu coed, bondocio, rheoli mieri, llunio pyllau dwr, a chreu cynefinoedd. Mae Coed Cymru wedi gosod nifer o flychau nythu ar gyfer adar ac ystlumod, ac mae’r rhain yn cael eu defnyddio’n helaeth, ac mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru wedi bod wrthi’n cynnal arolygon. Rydym wedi canfod olion nifer o famaliaid mawr megis y Ffwlbart, yr Ysgyfarnog Brown, y Mochyn Daear ( neu olion o’r set a bod yn fanwl gywir ) a nifer o dyllau cwningod. Yn ogystal â hyn mae yma, ymhlith yr ymlusgiaid, yr amffibiaid a’r pryfetach greaduriaid megis Nadroedd y Gwair, Nadroedd Defaid, nifer o Fadfallod a Llyffantod Duon, Gweision y Neidr a Mursennod.
Arlwyo ac Anrhegion Rydym yn gweithio tuag at sicrhau fod canran o’n brechdanau yn cael eu gwerthu mewn pecynnau pydradwy. Yn y caffi, mae halen, pupur, finegr a saws tomato yn cael eu rhoi mewn llestri y gellir eu hadlenwi, a thrwy hyn y mae’n bosib cael gwared â’r bagiau bach plastig. Yn y bariau byrbryd rydym am ddefnyddio poteli sy’n pwmpio saws tomato a mwstard, eto er mwyn lleihau’r nifer o fagiau bach plastig a ddefnyddir. Mae hyd yn oed y carton sy’n dal y Tatws trwy’u Crwyn yn bydradwy.
Rydym wedi cyflwyno mwy o nwyddau ‘gwyrdd’ a nwyddau sydd wedi eu hailgylchu yn ein siopau anrhegion. Cynnyrch lleol yn rhai o’r nwyddau hyn, sy’n cynnwys anrhegion o goed sy’n cael eu creu gan durniwr lleol, a mêl sy’n cael ei gynhyrchu ar Ynys Môn. Mae hyd yn oed ein bagiau papur - sydd bellach yn bapur yn hytrach na phlastig, yn cynnwys llun o’r Gelli Gyffwrdd a ellir ei liwio - bag a thaflen liwio’n un!
|
||||
| Copyright © 2008 GreenWood Forest Park |
web design by MG Media Solutions |
| home | rides & activities | interactive map | news | grown up info | school & groups info | green page | events | contact us |